Hafan . Adrannau . Complete Control Music

Digwyddiadur

Rhowch eich enw i dderbyn Bwletin CGC

Gweithio gyda CGC yw un o’r pethau gorau, mwyaf boddhaus rydw i erioed wedi ei wneu

Dean Goddard

Twitter

Complete Control Music

Mae Complete Control Music yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 14 a 19 oed sy'n ymwneud a cherddoriaeth. Mae'n gynllun mentora sydd yn rhoi cyngor ymarferol ar y diwydiant cerddoriaeth ynghyd a chyfleoedd i hyrwyddo a datblygu ei gwaith, cynnig cyfleoedd i recordio, posibiliadau i ryddhau, gigs, cefnogaeth a chyngor.

Mae'r prosiect yma yn gweithio gydag ystod eang o bobl ifanc o gefndiroedd cerddorol gwahanol, o gyfansoddwyr i fandiau i DJs. Mae CCM yn paru pobl ifanc gyda mentoriaid sydd wedi gweithio yn broffesiynol o fewn y diwydiant cerddoriaeth i ddarparu mentora arbenigol wyneb yn wyneb. Mae'n targedu pobl ifanc anfodlon sydd mewn peryg o beidio cyrraedd ei photensial llawn drwy ddysgu ffurfiol, a trwy adnabod ac annog eu talentau cerddorol, yn ceisio gwella ei hunan hyder, synnwyr o'i gwerth, cyfathrebu, sgiliau busnes ac i alluogi iddynt greu dyfodol mwy disglair yw hun.

Rydym wedi rhedeg cynllun tebyg yn y gorffennol yn targedu'r rheini dros 18 ac wedi helpu cerddorion sydd wedi mynd ymlaen i fod mewn bandiau gyda chydnabyddiaeth ryngwladol megis Lostprophets, Bullet For My Valentine, Funeral For a Friend, Akira the Don, Goldie Lookin Chain, Amy Wadge, Mclusky, Jarcrew a Future of the Left.

Mae'r cynllun yn rhan o 'Cyrraedd y Nod' ac ariannir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Bookmark and Share