05.07.09
Cerddoriaeth Caerdydd ym Marc y Rhath
Am y deuddegfed flwyddyn yn olynol bydd Cerdd Gymunedol
Cymru yn cynnal gweithdai drymio a tharo yn ystod gwyliau Cerddoriaeth Caerdydd
yn y Parciau. Mae CGC wedi cynnal y gweithdai ers 1997.
Bydd y sesiwn gyntaf eleni yn cael ei chynnal ym Mharc y
Rhath ar Ddydd Sul y 5ed o Orffennaf rhwng 3 a 5yp. Mae?r sesiynau yn agored i
bobl o bob oed a gallu a gobeithir rhoi i?r cyhoedd y cyfle i brofi amrywiaeth
o rythmau drymio mewn awyrgylch hamddenol y parc.
Mi fydd tiwtoriaid cerddorol profiadol wrth law a bydd y
cyfranogwyr yn magu hyder mewn sgiliau drymio a chreu cerdd mewn grwpiau.
Dewch yno ar y dydd, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch ? :admin@communitymusicwales.org.uk