17.03.10
Sesiynau Roc Glynrhedyno
Bydd CGC yn gweithio ar y cyd ag E3+
ar gyfer y cwrs yma o weithdai ‘Ysgol Roc’ canu ac
ysgrifennu caneuon. Cynhelir y
gweithdai dros gyfnod o ddeng wythnos yng Nglynrhedynog.
Bydd y sesiynau yn cynnwys
hyfforddiant cerddorol mewn ystod eang o genres cerddorol gyda’r bwriad o
gynyddu hyder, cymhelliant a hunan-barch y sawl sy’n cymryd rhan yn
ogystal â datblygu sgiliau gwneud a chyfansoddi
cerddoriaeth.
Darperir yr holl offerynnau, yn
cynnwys gitarau, gitâr bas, allweddellau, a drymiau, ynghyd â cherddor
profiadol i gynnig cyngor a chefnogaeth i bawb sy'n mynychu.
Anogir y sawl sy’n cymryd rhan i
weithio ar ganeuon a cherddoriaeth wreiddiol a byddent yn eu datblygu drwy
gydol y cwrs. Cynhelir y gweithdai
yng Nghanolfan Ieuenctid Maerdy bob dydd Mercher o 13 Ionawr hyd at 17 Mawrth
am 7pm.