Hafan . Digwyddiadau . Cerddoriaeth Bae Cinmel

11.02.10

Cerddoriaeth Bae Cinmel

Bydd Cerdd Gymunedol Cymru yn cynnal gweithdai cerddorol mewn partneriaeth â Cymunedau yn Gyntaf Bae Cinmel.  Bydd y sesiynau yn cynnwys blas o rapio, troelli disgiau a bît-bocsio, ac maent yn agored i unrhyw un sy’n byw ar y ward!

Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i ysgrifennu caneuon neu gyfansoddiadau gwreiddiol a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Bydd yna hefyd gyfle i geisio gwneud ‘celfyddyd y stryd’ gyda gweithdai graffiti yn cael eu cynnal ochr yn ochr â’r sesiynau cerddoriaeth.

Bydd y gweithdai yn achrededig gan OCN a bydd y prosiect yn diweddu gyda sioe ac oriel yn arddangos y gwaith. Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal yn nhw cymuned Cymunedau yn Gyntaf Bae Cinmel yn y Rhyl ar 4 ac 11 Chwefror o 5pm i 7pm.  

 

Bookmark and Share