Hafan . Newyddion . Creu bandiau lleol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaetho

19.06.09

Creu bandiau lleol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaetho

  • band for eisteddfod

Cerdd Gymunedol Cymru yn bwriadu creu bandiau allan o s?r y dyfodol dros y misoedd nesa trwy gyfres o weithdai yn Harlech a Thywyn.


Bydd bandiau yn cael cyfle i rannu llwyfan gyda rhai o brif artistiaid y s?n Gymraeg gan berfformio ar faes yr Eisteddfod yn y Bala eleni.
?
Mae dau slot wedi ei neilltuo ar eu cyfer a bydd hwn yn gyfle euraidd i lansio gyrfaoedd cerddorol newydd. Bydd y perfformiadau yn digwydd rhwng 11yb a 12yp ar y 6ed a?r 7fed o Awst.

Mae?r grŵp cyntaf wedi ei ffurfio allan o gerddorion o ardal Harlech. Fe fydd cerddorion yn ardal Tywyn hefyd yn cael cyfle i ffurfio band ac i berfformio yn yr Eisteddfod. Mae?r prosiect ar agor i gerddorion o bob oed ac arddull gerddorol, gyda?r bwriad o greu ystod amrywiol o gerddoriaeth newydd Cymraeg.

Hyfforddir y bandiau ar ran Cerdd Gymunedol Cymru gan y cynhyrchydd a?r cerddorol profiadol Gronw Roberts. Ers iddo fod ar raglen mentora Ciwdod sy?n cael ei rhedeg gan Cerdd Gymunedol Cymru yn 2005 mae Gronw bellach wedi cwblhau cwrs hyfforddiant tiwtoriaid y sefydliad a bellach yn hyfforddi cerddorion yn gymunedol.

Dywedodd Gethin Evans, Rheolwr Prosiectau gyda Cerdd Gymunedol Cymru:

?Mae hwn yn gyfle gwych i gerddorion o Gymru gael dangos ei talentau, a gydag arbenigedd Gronw Roberts i gael cymorth i ddatblygu deunydd newydd a chyffroes ar gyfer yr Eisteddfod. Drwy gydweithio gyda?r wŷl ry ni?n gobeithio ehangu?r gynulleidfa ac annog pobl na fyddai yn cymryd rhan fel arfer i gymryd rhan yn un o wyliau diwylliannol hynaf y byd.?

Mae?r prosiect yn cael ei rhedeg mewn cydweithrediad gyda Mantell Gwynedd a Bwrdd yr iaith Gymraeg.
??

Bookmark and Share