07.01.10
CGC yn Nodi 20 Mlynedd o Hawliau Plant
Ar yr 20fed Tachwedd roedd Cerdd Gymunedol Cymru yn
y Senedd ym Mae Caerdydd, yn dathlu 20fed pen-blwydd mabwysiadu Confensiwn y
Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn gan Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd
Unedig.
Cafodd y dathliad ei arwain gan Jane Hutt, cyn Weinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau oedd yno i lansio Cynllun Gweithredu Confensiwn y Cenhedloedd
Unedig ar Hawliau'r Plentyn ar gyfer Cymru, adnodd Codi Ymwybyddiaeth sydd wedi
cael ei ddatblygu a’i beilotio ar draws Cymru dros y misoedd diwethaf a
chystadleuaeth genedlaethol.
Ymunodd y
Prif Weinidog a Chomisiynydd Plant Cymru yn y dathliadau ar y diwrnod hefyd,
ynghyd â tua 100 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru. Cynhaliodd Cerdd Gymunedol
Cymru weithdai galw i mewn i ddysgu bod yn DJ a chymysgu MP3, gan roi cyfle i
bobl ifanc i roi tro ar dechnolegau newydd ac arbrofi gyda’u cerddoriaeth eu
hunain.
Roedd hon yn foment arwyddocaol i hawliau plant a
phobl ifanc, nid dim ond yng Nghymru ond ar draws y byd. Er ei fod yn hwyl ac
yn rhyngweithiol, roedd y diwrnod yn y Senedd hefyd yn pwysleisio neges bwysig
iawn am ymrwymiad Cymru i wella bywydau ei phlant a phobl ifanc.
Eleni yw 20fed pen-blwydd Confensiwn y Cenhedloedd
Unedig ar Hawliau'r Plentyn, y cytundeb rhyngwladol a gynlluniwyd i amddiffyn
plant a phobl ifanc ac i hyrwyddo’u lles. I nodi’r garreg filltir a chodi
ymwybyddiaeth o’r mater yma, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu
offer gweithdy y gellir ei lwytho i lawr o http://www.uncrcletsgetitright.co.uk
Mae’r offer yn adnodd annibynnol y gellir ei
ddefnyddio gyda phlant a phobl ifanc, pobl broffesiynol a rhieni. Ar hyn o bryd
mae Cerdd Gymunedol Cymru yn edrych ar sut i ddefnyddio’r offer yn ein gwaith. Rydyn
ni wedi ymrwymo i gynyddu hawliau plant a phobl ifanc ac i ddefnyddio
cerddoriaeth i roi’r grym iddyn nhw.
Yn y llun mae’r cyn-Weinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Jane Hutt gyda Joel Lipman, tiwtor CGC.