Hafan . Newyddion . CGC yn Datgelu Logo Newydd a Ddyluniwyd Gyda Myfyrwyr Lleol

04.01.10

CGC yn Datgelu Logo Newydd a Ddyluniwyd Gyda Myfyrwyr Lleol

  • LOGO

Yn dilyn nifer o fisoedd o ddisgwyl yn eiddgar, roedd CGC yn falch o gael lansio’i logo newydd o flaen y wasg yn yr Atriwm yr misoedd ddiwethaf. Roedd y cynllun newydd, a grëwyd gan fyfyriwr lleol, wedi bod yn ymddangos yn araf ar ddeunydd cyhoeddusrwydd a gwefan yn ddiweddar, ond nawr mae wedi cael ei ryddhau’n swyddogol.

Cychwynnwyd y prosiect i greu’r logo yn yr Atriwm, Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd yn gynharach yn ystod y flwyddyn. Cafodd Cerdd Gymunedol Cymru eu gwahodd, ynghyd â dwy elusen leol eraill, i weithio gyda myfyrwyr sy’n astudio dylunio graffig sydd yn eu blwyddyn 1sf yn y coleg.

Gofynnwyd i fyfyrwyr gyflwyno prosiect ar gyfer modiwl brandio fel rhan o’u rhaglen gradd, ac yn rhan o hyn fe fydden nhw’n cynllunio logo ar gyfer un o’r elusennau dynodedig. Aeth Charlotte Little Rheolwr rhaglen CGC i gefnogi a chynghori’r 15 o fyfyrwyr oedd wedi dewis gweithio ar logo CGC. Roedd Charlotte yn gallu manteisio 10 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn marchnata a dylunio, yn cwrdd â’r myfyrwyr yn wythnosol yn y coleg. 

Yn dilyn 12 wythnos o gynllunio manwl, roedd y myfyrwyr yn barod i gyflwyno’u darnau gorffenedig. Cafodd darn terfynol ei ddewis, gafodd ei gynllunio gan  Adam Bee o Ogledd Cymru. Roedd Adam wedi dewis cynllunio logo ar gyfer CGC, gan ei fod y n gwybod am yr elusen trwy ffrindiau oedd wedi gweithio trwy ei brosiect Cymraeg Ciwdod ar gyfer cerddorion ifanc.

 Dywedodd Charlotte

“Roedden ni’n hoffi cynllun Adam yn fawr gan fod cyfuno’r ddwy ddelwedd - y plectrwm a’r dangosydd digidol. Mae wedi cyfuno cerddoriaeth traddodiadol acwstig a’r dangosydd digidol sy’n cyfleu cerddoriaeth yn ei ffurf rhaglen gyfrifiadurol fodern, mewn ffordd unigol iawn. Dwi’n teimlo ei fod yn cynrychioli maes o waith CGC o rhan genres cerddorol a’r cymunedau rydym yn gweithio gyda yn wych”

 Mae CGC yn gobeithio y bydd y prosiect llwyddiannus aml-gelfyddyd yma’n nodi cychwyn ar bartneriaeth foddhaol iawn gyda’r Atriwm. Hoffai CGC ddiolch i Adam a’r holl fyfyrwyr a gyfrannodd i’r prosiect. 

Yn ogystal â’r logo, bydd CGC yn lansio gwefan newydd a phecyn gwybodaeth am y sefydliad ar gyfer partneriaid.  

Bookmark and Share