Hafan . Newyddion . Lloches Digartref Wrecsam yn Dod yn Ganolfan i’r Aml-Gelfyddydau

15.01.10

Lloches Digartref Wrecsam yn Dod yn Ganolfan i’r Aml-Gelfyddydau

  • foyer

Dros y misoedd diwethaf, mae Cerdd Gymunedol Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag elusen digartref Wrecsam, ‘The Foyer’, gan ddarparu prosiect aml-gelfyddydol i ddefnyddwyr gwasanaeth digartref. 

Fel rhan o’r gweithdau yma, ag ariannwyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri, mae’r mynychwyr wedi cael y cyfle i archwilio ffyrdd gwahanol o fynegi celf, yn gweithio tuag at un perfformiad ac arddangosfa gyhoeddus. Mae gweithdai’n cynnwys cerddoriaeth, dawns, ffilm ac offerynnau taro gyda’r bwriad bod y prosiect yn gallu codi sgiliau sylfaenol yn ogystal â hyder, symbyliad a gwaith grwp mewn amgylchedd tawel a chyfeillgar. 

Mae’r gweithdai i gyd wedi eu hachredu ac mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn gweithio gyda thiwtoriaid wedi eu hyfforddi fydd yn eu harwain i greu ffilm fer, dawns neu ddarn ar gyfer offerynnau taro. 

Dywedodd Gethin Evans, swyddog prosiect Cerdd Gymunedol Cymru ar gyfer Gogledd Cymru

 “Rydyn ni’n falch iawn ein bod yn cefnogi un o brif amcanion y Foyer trwy gyfrwng y prosiect hwn. Mae hyn yn hwyluso ailgyflwyno preswylwyr i gyflogaeth, hyfforddiant ac/neu addysg. Mae’r prosiect yn amcanu i symbylu a rhoi hyder i’r rhai sy’n cymryd rhan i gyflawni’r gôl yma, tra’n cael eu hachredu mewn sefyllfa ddysgu ymlaciol, anffurfiol.’’

Dros yr wythnosau nesaf bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gweithio ar ffurfiau dawns, patrymau taro, sgoriau cerddorol a ffilmio. Bydd y canlyniadau’n cael eu dangos mewn perfformiad terfynol i’w gynnal yn lleoliad yr Orsaf Ganolog yn Wrecsam. Bydd y dyddiad yn cael ei gadarnhau’n fuan. 

Bookmark and Share