Hafan . Newyddion . Rhythmau CMC

27.01.10

Rhythmau CMC

  • wmc

Yng nghanol y tyrfaoedd amser cinio Ddydd Iau'r wythnos ddiwethaf ym Mae Caerdydd roedd CGC yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn cynnal gweithdy agored, gan roi cyfle i’r rhai oedd yn mynd i’r theatr a’r cyhoedd i ymuno mewn gweithgaredd creu cerddoriaeth canol dydd!

Ymhlith y dyrfa o rai oedd yn mynychu’r perfformiad prynhawn gafaelodd y grŵp mewn drymiau Affricanaidd ac offerynnau taro gan gychwyn creu cerddoriaeth rythmig gan amgylchynu'r prif ofod yng nghyntedd CMC.

Stopiodd rhai pobl oedd yn pasio gan edrych yn syn tra roedd eraill yn teimlo awydd i ymuno i greu cerddoriaeth gan afael mewn cloch buwch neu ddrwm. 

Arweiniodd y tiwtor Neil y sesiynau gyda gweithgareddau galw ac ymateb, gan ddechrau gyda rhythmau sylfaenol wrth i’r rhai oedd yn cymryd rhan fagu hyder, cyn rhoi cyfle i bawb fentro ar eu pen eu hunain i arddangos rhythm newydd grëwyd ganddyn nhw.

Ymunodd grŵp amrywiol iawn yn y sesiynau gyda phawb o blant ysgol i bobl hŷn yn cymryd rhan gyda’i gilydd. Dywedodd Swyddog Prosiect CGC Chris Dawson

‘‘Roedd yna gynulleidfa’n eistedd yn disgwyl i berfformiad i gychwyn, ond daeth yn amlwg yn fuan iawn mai’r union bobl hynny oedd yn gafael yn yr offerynnau, gan droi’n berfformwyr eu hunain.  Mae hyn yn arddangos gweithgaredd mor hawdd ymuno ynddo a’i fwynhau yw hwn. Fe gawson ni gynulleidfa sylweddol ac roedd yna gryn gyffro yn yr awyrgylch.”

Bookmark and Share