Hafan . Hyfforddiant
Digwyddiadur
- 13.09.10 Clwb Ieuenctid Y ‘Mix’ Fochriw – Y Mix
- 13.09.10 ‘Caerphilly Detached’ - Y Mix
- 20.09.10 Clwb Ieuenctid Fochriw – Y Mix
- 20.09.10 'Caerphilly Detached' - Y Mix
- 27.09.10 Clwb Ieuenctid Fochriw – Y Mix
Rhowch eich enw i dderbyn Bwletin CGC
Jamie BurneMae wedi bod yn brofiad cadarnhaol sydd wedi cael effaith ar fy hyder i greu rhwydweithiau o gerddorion oddi fewn i’r ardal leol a’r tu hwnt.
Hyfforddiant
Ers ei sefydliad mae CGC wedi ymdrechu i sicrhau safon uchel o ddarpariaeth ac o rannu arfer gorau. Mae CGC yn credu'n gryf fod cerddoriaeth yn medru cael effaith ar fywydau hyd yn oed yr unigolion a'r grwpiau anoddach yw cyrraedd, a gall fod yn hynod o bositif os yw'n cael i ddarparu mewn modd sensitif a chlient canolog. Os ddim, gall fod yn beryglus i gyfranogwyr sy'n agored i niwed trwy beryglu ei hyder a chynyddu eithrio cymdeithasol. Nid prif fwriad CGC yw'r darn cerddorol gorffenedig neu'r perfformiad olaf ond y daith i gyrraedd yna. Mae hyn yn aml yn cael effaith cryfach na'r cynnyrch terfynol, gan fod cyfranogwyr yn gallu codi ei hyder, lefel sgil sylfaenol, cydlyniad cymunedol, cryfhau perthnasau cymunedol ynghyd a datblygu sgiliau ymarferol.
Bwriad cynlluniau Hyfforddi CGC yw codi sgiliau sylfaenol cerddorion sydd â’r chwant i fod yn diwtoriaid cerddoriaeth gymunedol hunangyflogedig, rheiny sydd â sgiliau cerddorol gydag awydd i ddefnyddio’r sgiliau hynny mewn lleoliad cymunedol, Tiwtoriaid Cerddorol Unigol a fyddai’n hoffi gweithio gyda grwpiau, rheiny gyda sgiliau cerddorol ac sydd yn gweithio gyda phlant difreintiedig neu a fyddai’n hoffi cynnwys cerddoriaeth yng ngwaith y sefydliad. Gan godi'r sgiliau yma i sicrhau darpariaeth o safon uwch ac ymyriad mwy effeithiol.
Mae CGC wedi rhedeg cyrsiau hyfforddi tiwtoriaid cerddoriaeth gymunedol ers 1992. Rydym wedi bod yn hynod o lwyddiannus gyda dros 500 o bobl yn mynychu'r cyrsiau.
Mae nifer o elfennau yn ein cynllun Hyfforddi, ac mi allwn ei addasu ar gyfer wahanol anghenion datblygol. Ar hyn o bryd rydym yn rhedeg:
· Cerdd Gymunedol - Cerddoriaeth ar Waith (seminarau ar gyfer sefydliadau)
· Cerddoriaeth Gymunedol yn y Gweithle (cwrs dau ddiwrnod)
· Cwrs Hyfforddi Tiwtoriaid Cerddoriaeth Gymunedol (yn rhan amser dros flwyddyn)