Hafan . Hyfforddiant . Cerddoriaeth Gymunedol yn y Gweithle

Digwyddiadur

Rhowch eich enw i dderbyn Bwletin CGC

Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol sydd wedi cael effaith ar fy hyder i greu rhwydweithiau o gerddorion oddi fewn i’r ardal leol a’r tu hwnt.

Jamie Burne

Twitter

Cerddoriaeth Gymunedol yn y Gweithle

Mae hyn yn gwrs rhagarweiniol byr wedi dyfeisio i roi dealltwriaeth o gerdd gymunedol a blas o'r Cwrs Hyfforddi Tiwtoriaid Cerddoriaeth Gymunedol. Mae nifer o bobl sy'n mynychu'r cwrs yma yn mynd ymlaen i wneud y cwrs hirach, os hoffech geisio cerddoriaeth gymunedol ond yn ansicr o draddodi i flwyddyn yn syth mae hyn yn gallu fod yn lle da i ddechrau. Mae'r cwrs yma hefyd yn ddefnyddiol i rheini sy'n gweithio a grwpiau cymunedol a hoffai ymchwilio mewn i ddefnyddio gweithgaredd cerddorol yn ei chynllun gwaith.

Mae’r Cyrsiau Hyfforddi yn cynnwys amrywiaeth o theori ac ymarferiad mewn cerddoriaeth gymunedol, gyda gweithdai ymarferol  oddi wrth hyfforddwyr cerddorol cymunedol.  Maent yn cynnwys sgiliau Gwaith Grŵp sylfaenol, Pendantrwydd, Dyfeisio ac Addasu deunydd y gweithdy, Hyrwyddo dysg a thyfiant y cleientiaid, Gweithio gyda Chanlyniadau Meddal a Sgiliau Trosglwyddadwy, ac Ymarfer Da.

Mae'n gyrsiau wedi achredu gan Agored Cymru. Mae'r hyfforddi wedi ei dyfeisio gyda strwythur, dull a naws ac sydd yn adlewyrchu swydd y tiwtor cerdd gymunedol h.y. mae’r cwrs yn ymarfer gwerthfawr i’r swydd ei hunan. Mae hyfforddi wedi eu seilio yn rhannol ar hunanasesiad - mae’r hyfforddedig yn asesu eu cryfderau a’u gwendidau. Trwy brofiad personol o fod tu fewn i’r Grŵp mewn amgylchedd o ddysg, mi fydd  pob aelod dan hyfforddiant yn gwerthfawrogi a deall y ddeinamig a’r broses

Mae hyn cwrs dau ddiwrnod.

Mae’r cyrsiau wedi eu hanelu tuag at y grwpiau canlynol, ond mi all amrywiaeth o bobl elwa ohonynt:

·      Tiwtoriaid Cerddorol Unigol a fyddai’n hoffi gweithio gyda grwpiau

·      Y rheiny gyda sgiliau cerddorol ac sydd yn gweithio gyda phlant difreintiedig neu a fyddai’n hoffi cynnwys cerddoriaeth yng ngwaith y sefydliad

·      Gweithwyr Ieuenctid

·      Sefydliadau Cymunedol

·      Swyddogion Awdurdodau Lleol

·      Cerddorion sydd â’r chwant i fod yn diwtoriaid cerddoriaeth gymunedol hunangyflogedig

·      Y rheiny sydd â sgiliau cerddorol gydag awydd i ddefnyddio’r sgiliau hynny mewn lleoliad cymunedol

 

Bookmark and Share