Hafan . Hyfforddiant . Cwrs Hyfforddi Tiwtoriaid Cerddoriaeth Gymunedol
Digwyddiadur
- 08.09.10 Cerdd Gymunedol yn y Gweithle Cwrs Rhagarweiniol- Sir Gaerfyrddin (Diwrnod 1 o 2)
- 09.09.10 Cerdd Gymunedol yn y Gweithle Cwrs Rhagarweiniol- Sir Gaerfyrddin (Diwrnod 2 o 2)
- 13.09.10 Clwb Ieuenctid Y ‘Mix’ Fochriw – Y Mix
- 13.09.10 ‘Caerphilly Detached’ - Y Mix
- 20.09.10 Clwb Ieuenctid Fochriw – Y Mix
Rhowch eich enw i dderbyn Bwletin CGC
Stacey CohenNi fyddwn yn y sefyllfa hon nawr ond am gefnogaeth Cerdd Gymunedol Cymru. Roeddent yn gallu rhoi i mi wybodaeth amhrisiadwy ond hefyd arweiniad ynglŷn ''r diwydiant. Hefyd...
Cwrs Hyfforddi Tiwtoriaid Cerddoriaeth Gymunedol
Mae ein cynllun Hyfforddi Tiwtortiaid Cerddoraieth Gymunedol wedi rhedeg ers 1992, gyda hyfforrdai yn derbyn achrediad ers 1997. Mae CGC wedi bod yn aruthrol o lwyddiannus gyda dros 500 o bobl yn dilyn cyrsiau. Mae tiwtoriaid CGC yn gerddorion crefftus sydd, trwy’r rhaglen hyfforddi, wedi trosi eu sgiliau i greu potensial gwaith credadwy, gyda nifer ohonynt gynt yn ddi-waith. Mae’r tiwtoriaid yn amrywio mewn oed a rhyw ond maent i gyd wedi ymrwymo i ddefnyddio cerddoriaeth i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Yn ychwanegol a rhoi sgiliau i unigolion ddatblygu fel Tiwtoriaid Cerddorol Cymunedol ar eu liwt eu hun, mae nifer o weithwyr dan hyfforddiant wedi sefydlu eu mentrau cymunedol unigol trwy ddefnyddio cerddoriaeth fel offeryn ymrwymiad grymus.
Mae’r Cyrsiau Hyfforddi yn cynnwys amrywiaeth o theori ac ymarferiad mewn cerddoriaeth gymunedol, gyda gweithdai ymarferol oddi wrth hyfforddwyr cerddorol cymunedol. Maent yn cynnwys sgiliau Gwaith Grwp sylfaenol, Pendantrwydd, Dyfeisio ac Addasu deunydd y gweithdy, Hyrwyddo dysg a thyfiant y cleientiaid, Gweithio gyda Chanlyniadau Meddal a Sgiliau Trosglwyddadwy, Diogelwch Plant, Yswiriant, Asesi Sgiliau Sylfaenol, Iechyd a Diogelwch, Cyfleoedd Cyfartal ac Amrywiaeth, Cod Ymddygiad ac Ymarfer Da.
Mae'n gyrsiau wedi achredu gan Agored Cymru. Mae'r hyfforddi wedi ei dyfeisio gyda strwythur, dull a naws ac sydd yn adlewyrchu swydd y tiwtor cerdd gymunedol h.y. mae’r cwrs yn ymarfer gwerthfawr i’r swydd ei hunan. Mae hyfforddi wedi eu seilio yn rhannol ar hunanasesiad - mae’r hyfforddedig yn asesu eu cryfderau a’u gwendidau. Trwy brofiad personol o fod tu fewn i’r Grŵp mewn amgylchedd o ddysg, mi fydd pob aelod dan hyfforddiant yn gwerthfawrogi a deall y ddeinamig a’r broses
Mae’r cyrsiau wedi eu hanelu tuag at y grwpiau canlynol, ond mi all amrywiaeth o bobl elwa ohonynt:
· Cerddorion sydd â’r chwant i fod yn diwtoriaid cerddoriaeth gymunedol hunangyflogedig
· Y rheiny sydd â sgiliau cerddorol gydag awydd i ddefnyddio’r sgiliau hynny mewn lleoliad cymunedol
· Tiwtoriaid Cerddorol Unigol a fyddai’n hoffi gweithio gyda grwpiau
· Y rheiny gyda sgiliau cerddorol ac sydd yn gweithio gyda phlant difreintiedig neu a fyddai’n hoffi cynnwys cerddoriaeth yng ngwaith y sefydliad
· Gweithwyr Ieuenctid
· Sefydliadau Cymunedol
· Swyddogion Awdurdodau Lleol
· Gwirfoddolwyr
Nid yng Nghymru yn unig mae hyn wedi cael effaith. Mae hefyd wedi bod yn llwyddiannus yn rhyngwladol gyda CGC yn darparu cyrsiau yn Latfia, yr Almaen, Ciwba, Israel, Canada a Bolivia yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf.