Banjô Cwbl Arbennig

Rydym yn hynod o falch o gael dweud fod y bobl arbennig yn Deering Banjos wedi penderfynu y bydd enillion un o’u harwerthiannau elusennol yn cael eu rhoi i Gerdd Gymunedol Cymru.

Mae’r “Great American Banjo Company” wedi ymuno â’r enwog Mumford & Sons ar eu taith Delta Tour i greu banjôs “Goodtime” - crefftweithiau unigryw sy’n cynrychioli’r lleoliadau lle bydd y band yn chwarae ledled y byd.

Mae pob un wedi cael ei arwyddo’n bersonol gan Mumford & Sons a byddant yn cael eu rhoi ar ocsiwn ar-lein a’r enillion yn mynd at elusennau lleol dethol yn ardaloedd y daith, ac wrth gwrs bydd enillion y banjo Cymreig yn cael eu rhoi i Gerdd Gymunedol Cymru!

Mae’r Banjô ‘Elusennol’ Cymreig yn gwbl unigryw, ac mae ganddo wddf du gyda siâp ac enw Cymru yn ymddangos yn berffaith ar y pegfwrdd. Gyda’i fewnosodiadau perloid gwyn ar y byseddfwrdd o fasarn tywyll ‘Midnight Maple’, a’r cyseinydd gwyrdd, mae’r banjo hwn yn cynrychioli gwyrddni toreithiog Cymru.

Mae’n offeryn prydferth tu hwnt, a gallwch ei weld a gwneud cynnig amdano yma: https://www.deeringbanjos.com/collections/mumford-sons-charity-banjos/products/wales-charity-banjo

Hoffem ddiolch o galon i Deering ac i Mumford & Sons. Pob dymuniad da iddynt yn eu holl arwerthiannau ac wrth gwrs ar eu taith, a gobeithio y cânt amser i’w gofio yng Nghymru.