….
Iachau Cerddoriaeth – Music Healing
..
Iachau Cerddoriaeth
….
….
Using music to support recovery, build confidence, and inspire hope.
Iachau Cerddoriaeth – Music Healing was a year long participatory project supporting young people across North Wales living with severe mental health conditions. Funded by The Rayne Foundation, the project expanded our successful mental health work into new communities, with robust research to better understand the impact of music on recovery and wellbeing.
..
Defnyddio cerddoriaeth i gefnogi adferiad, meithrin hyder, ac ysbrydoli gobaith.
Roedd Iachau Cerddoriaeth yn brosiect cyfranogol blwyddyn o hyd a oedd yn cefnogi pobl ifanc ledled Gogledd Cymru sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl difrifol. Wedi'i ariannu gan Sefydliad Rayne, ehangodd y prosiect ein gwaith iechyd meddwl llwyddiannus i gymunedau newydd, gydag ymchwil gadarn i gael gwell dealltwriaeth o effaith cerddoriaeth ar adferiad a lles.
….
….
Over 45 weeks of songwriting, lyric writing, music creation, recording sessions, and live performances, young people were supported to express their feelings through music they created themselves, build confidence by sharing their voices in safe, supportive environments, achieve step-by-step goals from writing their first lyrics to performing live and recording in professional studios, and connect with peers, families, and their wider communities.
All sessions were participant-led, guided by trained music practitioners, and delivered bilingually where needed
..
Dros 45 wythnos o gyfansoddi caneuon, ysgrifennu geiriau, creu cerddoriaeth, sesiynau recordio, a pherfformiadau byw, cefnogwyd pobl ifanc i fynegi eu teimladau trwy gerddoriaeth a greon nhw eu hunain. Gwelwyd cynnydd mewn hyder trwy rannu eu lleisiau mewn amgylcheddau diogel, cefnogol, cyflawni nodau cam wrth gam o ysgrifennu eu geiriau cyntaf i berfformio'n fyw a recordio mewn stiwdios proffesiynol, a chysylltu â chyfoedion, teuluoedd, a'u cymunedau ehangach.
Cafodd pob sesiwn ei harwain gan gyfranogwyr gyda chymorth ymarferwyr cerddoriaeth hyfforddedig, a'i chyflwyno'n ddwyieithog lle bo angen.
….
….
Who We Worked With
In the first year, we partnered with six organisations including Adferiad, Kim Inspire, Hafod Mental Health Centre and Gisda. Together, we engaged over 60 young people (exceeding our target of 50), many living with depression, anxiety, or self-harm.
..
Gyda Phwy a Wnaethon Ni Weithio?
Yn y flwyddyn gyntaf, fe wnaethon ni bartneru â chwe sefydliad gan gynnwys Adferiad, Kim Inspire, Canolfan Iechyd Meddwl Hafod a Gisda. Gyda'n gilydd, fe wnaethon ni ymgysylltu â dros 60 o bobl ifanc (gan ragori ar ein targed o 50), llawer ohonynt yn byw gydag iselder, pryder, neu hunan-niweidio.
….
….
A Creative, Safe Space
The project nurtured creativity while expanding comfort zones. From collaborative rap songs in Welsh, English, and Lithuanian, to performances for peers and families, young people are finding their voice – and their place in the community.
..
Gofod Creadigol, Diogel
Meithrinodd y prosiect greadigrwydd trwy fynd y tu hwnt i'w parthau cysur arferol. O ganeuon rap cydweithredol yn y Gymraeg, Saesneg a Lithwaneg, i berfformiadau i gyfoedion a theuluoedd, mae pobl ifanc yn dod o hyd i'w llais - a'u lle yn y gymuned.
….
….
You can listen to some of the tracks created below
..
Gallwch wrando ar rai o'r traciau a grëwyd isod
….
….
Looking Ahead
As Iachau Cerddoriaeth continues, we’ll keep learning from the young people themselves, adapting the workshops to their needs, and sharing our findings with the Welsh Government, Arts Council of Wales, and health partners.
Music Healing is more than a project – it’s a pathway to recovery, resilience, and belonging..
Edrych Ymlaen
Wrth i Iachau Cerddoriaeth barhau, byddwn yn parhau i ddysgu gan y bobl ifanc eu hunain, gan addasu'r gweithdai i'w hanghenion, a rhannu ein canfyddiadau gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, a phartneriaid iechyd.
Mae Iachau Cerddoriaeth yn fwy na phrosiect - mae'n llwybr i adferiad, gwydnwch, ac ymdeimlad o berthyn.
….