….About our Training & Mentoring

We are very proud of our training programme for musicians which, with the support of the Arts Council of Wales and Paul Hamlyn Foundation. It has been delivered successfully since 1992, making the organisation one of the leading lights in participatory music training in Wales.

Over the years, we have trained over 8,000 musicians through our training programme. The community music practitioners are skilled musicians who through our training programme, have converted their skills into employment opportunities. Practitioners range in age and gender but all are committed to using music as a way of engaging people to make a real difference and contributing to the creative economy in Wales. After completing our Community Music training and placement time, some tutors have gone on to work for us, while many also establish themselves as independent freelance tutors, working for a large variety of organisations across Wales.

Our training package ranges from entry level training, continuing professional development, long term courses, placements and apprenticeship.

As well as music skills, community music tutors need a range of creative, communication and technical skills so we offer training for:

  • Musicians or students exploring the idea of community music

  • Experienced musicians who are starting to work in community music

  • Musicians who have been working in community settings for some time and who would like to develop their skills

  • Training for organisations who wish to employ music as a mechanism for community engagement

..Gair am ein Hyfforddiant a’n Mentora

Rydym yn falch iawn o'n rhaglen hyfforddi ar gyfer cerddorion. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Paul Hamlyn mae hon wedi cael ei chyflwyno’n llwyddiannus ers 1992, gan wneud ein sefydliad yn un o'r rhai mwyaf dylanwadol a blaenllaw ym maes hyfforddiant cerddoriaeth gyfranogol yng Nghymru.

Dros y blynyddoedd, rydym wedi hyfforddi mwy na 8,000 o gerddorion drwy ein rhaglen hyfforddi. Mae'r ymarferwyr cerddoriaeth gymunedol yn gerddorion medrus sydd wedi trawsnewid eu sgiliau'n gyfleoedd cyflogaeth drwy ddilyn ein rhaglen hyfforddi. Mae ymarferwyr yn amrywio o ran oedran a rhyw ond mae pob un ohonynt wedi ymrwymo i ddefnyddio cerddoriaeth fel ffordd o ymgysylltu â phobl i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chyfrannu at yr economi greadigol yng Nghymru. Ar ôl cwblhau ein hyfforddiant Cerddoriaeth Gymunedol a chyfnod o leoliad gwaith, mae rhai tiwtoriaid wedi mynd ymlaen i weithio i ni, tra bod llawer hefyd yn sefydlu eu hunain fel tiwtoriaid llawrydd annibynnol, gan weithio i amrywiaeth eang o sefydliadau ledled Cymru. 

Mae ein pecyn hyfforddi yn amrywio o hyfforddiant lefel mynediad, datblygiad proffesiynol parhaus, cyrsiau hirdymor, lleoliadau a phrentisiaeth.

Yn ogystal â sgiliau cerddoriaeth, mae ar diwtoriaid cerddoriaeth gymunedol angen amrywiaeth o sgiliau creadigol, cyfathrebu a thechnegol felly rydym yn cynnig hyfforddiant ar gyfer:

  • Cerddorion neu fyfyrwyr sy’n ystyried y syniad o gerddoriaeth gymunedol

  • Cerddorion profiadol sy'n dechrau gweithio ym maes cerddoriaeth gymunedol

  • Cerddorion sydd wedi bod yn gweithio mewn lleoliadau cymunedol am gyfnod ac yn dymuno datblygu eu sgiliau

  • Hyfforddiant ar gyfer sefydliadau sy'n dymuno cyflogi cerddoriaeth fel mecanwaith ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned

….