….About our Training & Mentoring
We are very proud of our training programme for musicians and organisations which has been delivered successfully since 1992, making the organisation one of the leading lights in participatory music training in Wales.
Over the years, we have trained over 10,000 musicians through our training programme. The community music practitioners are skilled musicians who through our training programme, have converted their skills into employment opportunities. Practitioners range in age and gender but all are committed to using music as a way of engaging people to make a real difference and contributing to the creative economy in Wales. After completing our Community Music training and placement time, some tutors have gone on to work for us, while many also establish themselves as independent freelance tutors, working for a large variety of organisations across Wales.
Our training package ranges from entry level training, continuing professional development, long term courses, placements and apprenticeship.
..Gair am ein Hyfforddiant a’n Mentora
Rydym yn falch iawn o'n rhaglen hyfforddi ar gyfer cerddorion a sefydliadau sydd wedi'i chyflwyno'n llwyddiannus ers 1992, gan wneud y sefydliad yn un o'r prif sefydliadau ym maes hyfforddiant cerddoriaeth gyfranogol yng Nghymru.
Dros y blynyddoedd, rydym wedi hyfforddi mwy na 10,000 o gerddorion drwy ein rhaglen hyfforddi. Mae'r ymarferwyr cerddoriaeth gymunedol yn gerddorion medrus sydd wedi trawsnewid eu sgiliau'n gyfleoedd cyflogaeth drwy ddilyn ein rhaglen hyfforddi. Mae ymarferwyr yn amrywio o ran oedran a rhyw ond mae pob un ohonynt wedi ymrwymo i ddefnyddio cerddoriaeth fel ffordd o ymgysylltu â phobl i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chyfrannu at yr economi greadigol yng Nghymru. Ar ôl cwblhau ein hyfforddiant Cerddoriaeth Gymunedol a chyfnod o leoliad gwaith, mae rhai tiwtoriaid wedi mynd ymlaen i weithio i ni, tra bod llawer hefyd yn sefydlu eu hunain fel tiwtoriaid llawrydd annibynnol, gan weithio i amrywiaeth eang o sefydliadau ledled Cymru.
Mae ein pecyn hyfforddi yn amrywio o hyfforddiant lefel mynediad, datblygiad proffesiynol parhaus, cyrsiau hirdymor, lleoliadau a phrentisiaeth.
….