….RiFF – The Next Generation of Youth Music from Community Music Wales
Launched in 2021, RiFF is the latest evolution of Community Music Wales’ long-standing commitment to youth music—building on over 30 years of delivering rock school-style projects across Wales. Combining creativity, collaboration, and mentorship, RiFF offers a fresh, bilingual approach where young people can explore songwriting, performance, and diverse musical genres in a supportive and inclusive environment.
..
RiFF – Y Genhedlaeth Nesaf o Gerddoriaeth Ieuenctid gyda Cherddoriaeth Gymunedol Cymru
Wedi'i lansio yn 2021, RiFF yw ymgnawdoliad diweddaraf ymrwymiad hirhoedlog Cerddoriaeth Gymunedol Cymru i gerddoriaeth ieuenctid—yn adeiladu ar dros 30 mlynedd o gyflwyno amrywiaeth o brosiectau fel ysgolion roc ledled Cymru. Gan gyfuno creadigrwydd, cydweithio a mentora, mae RiFF yn cynnig dull ffres, dwyieithog lle gall pobl ifanc archwilio cyfansoddi caneuon, perfformio a genres cerddorol amrywiol mewn amgylchedd cefnogol a chynhwysol.
….
….From rock to rap, folk to electronic, RiFF encourages exploration across musical genres, helping participants build confidence, make new connections, and find their unique voices. Delivered in Welsh, English, and bilingually, RiFF is not just about music—it's about identity, self-expression, and celebrating the next generation of Welsh talent.
..
O roc i rap, gwerin i electronig, mae RiFF yn annog archwilio ar draws genres cerddorol, gan helpu cyfranogwyr i feithrin hyder, gwneud cysylltiadau newydd a dod o hyd i'w lleisiau unigryw. Wedi'i gyflwyno yn y Gymraeg, Saesneg, ac yn ddwyieithog, nid cerddoriaeth yn unig yw RiFF—mae'n ymwneud â hunaniaeth, hunanfynegiant, a dathlu'r genhedlaeth nesaf o dalent Cymru.
….
….Supported by BBC Children in Need, CIN, Laura Ashley, the Millennium Stadium Charitable Trust, Merthyr Council, RCT Council, Gwynedd Council, and a wide network of partners, RiFF offers inclusive, welcoming spaces where young people can come together to write songs, form bands, and perform—regardless of background or experience. Workshops are led by experienced tutors who are also active artists in the Welsh music scene, bringing real-world insight and inspiration to every session.
..
Wedi'i gefnogi gan BBC Plant mewn Angen a rhwydwaith eang o bartneriaid, mae RiFF yn cynnig cyfleoedd cynhwysol a chroesawgar lle gall pobl ifanc ddod at ei gilydd i ysgrifennu caneuon, ffurfio bandiau a pherfformio—ni waeth beth yw eu cefndir neu eu profiad. Arweinir y gweithdai gan diwtoriaid profiadol sydd hefyd yn artistiaid gweithredol yn y sîn gerddoriaeth Gymreig, gan ddod â mewnwelediad ac ysbrydoliaeth o'r byd go iawn i bob sesiwn.
….
….If you’re interested in bringing a RiFF project to your community, school, or organisation, please get in touch—we’d love to hear from you!
..