….Support the Work of Community Music Wales
..
Cefnogwch Waith Cerdd Gymunedol Cymru
….
….
Help Us Bring Music to Every Corner of Our Communities
For over 30 years, Community Music Wales has been breaking down barriers to music-making, reaching people and places where access to creative opportunities is limited or non-existent. With music education in schools across Wales increasingly depleted, our work is more vital than ever. We bring music participation to disadvantaged communities, areas with little access to music provision and individuals who might otherwise never have the chance to experience its transformative power. We see every day how music supports people living with poor mental health, offering expression, connection, and hope. It builds confidence, raises aspirations, and helps people discover their potential. From a shy young person finding their voice, to a recovery group building resilience through rhythm, to neighbours forming lasting bonds through shared creativity—music strengthens communities and fosters belonging.
Your support helps us continue this essential work, creating opportunities for people across Wales to learn, grow, and connect through music. Together, we can ensure that no one is denied the life-changing benefits that music brings..
Helpwch ni i ddod â cherddoriaeth i bob cwr o'n cymunedau
Ers dros 30 mlynedd, mae Cerdd Gymunedol Cymru wedi bod yn chwalu rhwystrau i greu cerddoriaeth, gan gyrraedd pobl a lleoedd lle mae mynediad at gyfleoedd creadigol yn gyfyngedig neu ddim yn bodoli. Gyda addysg gerddoriaeth mewn ysgolion ledled Cymru yn mynd yn fwyfwy prin, mae ein gwaith yn bwysicach nag erioed. Rydym yn dod â chyfranogiad cerddoriaeth i gymunedau difreintiedig, ardaloedd lle nad oes fawr ddim mynediad at ddarpariaeth gerddoriaeth a lle mae unigolion na fyddai ganddynt y cyfle fel arall i brofi pŵer trawsnewidiol cerddoriaeth yn gallu gwneud hynny. Rydym yn gweld bob dydd sut mae cerddoriaeth yn cefnogi pobl sy'n byw gydag iechyd meddwl gwael, gan gynnig mynegiant, cysylltiad a gobaith. Mae'n meithrin hyder, yn codi dyheadau, ac yn helpu pobl i ddarganfod eu potensial. O berson ifanc swil yn dod o hyd i'w lais, i grŵp adferiad yn meithrin gwydnwch trwy rhythm, i gymdogion sy'n ffurfio cysylltiadau parhaol trwy rannu eu creadigrwydd—mae cerddoriaeth yn cryfhau cymunedau ac yn meithrin ymdeimlad o berthyn a chynefin.
Mae eich cefnogaeth yn ein helpu i barhau â'r gwaith hanfodol hwn, gan greu cyfleoedd i bobl ledled Cymru ddysgu, tyfu a chysylltu trwy gerddoriaeth. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau nad oes neb yn cael ei wadu'r manteision sy'n newid bywydau trwy ymgysylltu cerddorol
….
….Why We’re Asking
Running inclusive music projects across Wales takes skilled tutors, instruments, and safe community spaces. Funding is always a challenge, and every donation helps us plan new workshops and keep our sessions open to everyone who wants to take part
..
Pam Rydym Ni'n Gofyn
Mae cynnal prosiectau cerddoriaeth gynhwysol ledled Cymru yn gofyn am diwtoriaid medrus, offerynnau, a mannau cymunedol diogel. Mae cyllid bob amser yn her, ac mae pob rhodd yn ein helpu i gynllunio gweithdai newydd a chadw ein sesiynau ar agor i bawb sydd eisiau cymryd rhan
….
….Real Stories, Real Impact
“Before joining CMW’s workshops, I was really shy and didn’t want to take part in group activities. Now, I’ve got the confidence to perform in front of others, and I’ve made new friends along the way.” — Participant, CMW Project
Stories like this are why we do what we do
..
Straeon Go Iawn, Effaith Go Iawn
“Cyn ymuno â gweithdai CGC, roeddwn i'n swil iawn ac nid oeddwn i eisiau cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp. Nawr, mae gen i'r hyder i berfformio o flaen eraill, ac rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd ar hyd y ffordd.” — Cyfranogwr, Prosiect CGC
Straeon fel hyn yw pam rydyn ni'n gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud
….
….The Impact You Can Make
£10 helps provide instruments and materials for a workshop.
£25 funds one participant’s place in a community music session.
£50 supports an experienced tutor to deliver an inclusive workshop.
Every contribution, big or small, makes a real difference.
If you believe in the power of music to bring people together, please consider supporting Community Music Wales
..
Yr Effaith y Gallwch Chi Ei Gwneud
Mae £10 yn helpu i ddarparu offerynnau a deunyddiau ar gyfer gweithdy.
Mae £25 yn ariannu lle un cyfranogwr mewn sesiwn gerddoriaeth gymunedol.
Mae £50 yn cefnogi tiwtor profiadol i gyflwyno gweithdy cynhwysol.
Mae pob cyfraniad, mawr neu fach, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Os ydych chi erioed wedi teimlo pŵer cerddoriaeth, helpwch ni i rannu'r rhodd honno
….
….Together, we can keep creating opportunities for people of all ages and backgrounds to experience the joy and confidence that music brings
..
Gyda'n gilydd, gallwn barhau i greu cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir brofi'r llawenydd a'r hyder y mae cerddoriaeth yn eu cynnig..
….