....Community Music Wales Secures Taith Funding to Develop Links on the International Stage .. Cerdd Gymunedol Cymru yn sicrhau cyllid Taith i Ddatblygu Cysylltiadau ar y Llwyfan Rhyngwladol....

….Community Music Wales is thrilled to announce that it has successfully secured funding from Taith – Wales’ international learning exchange programme – to expand its reach, develop ties and enhance its work globally.

Starting this month, the organisation will roll out Dau Enaid, Un Daith (Two Souls, One Journey); a new and exciting foreign exchange programme for project development staff and early career musicians/tutors, which will share ideas and best practice, and work toward building a cohesive worldwide network of community music organisations.

Using music and song writing as a conduit to forge new relationships, CMW staff will work collaboratively with organisations in Italy, Australia, Portugal, Ireland, and Finland this year to explore how community music is used to support, monitor, and evaluate the wellbeing of young people and investigate how these approaches impact on minority language.

“We are very grateful to Taith for their generous support,” said CMW Director, Hannah Jenkins. "This funding will allow us to broaden our impact and provide enriching musical experiences to even more people, including those from underrepresented communities here in Wales. Using the skills, knowledge and connections we make working alongside partner organisations abroad, we can continue to improve our services and make a positive change in people’s lives.”

With each country bringing its own unique traditions around engagement in minority language music, the exchange will eventually come full circle as representatives from partner organisations will be invited to Wales next year to participate in a Welsh language program of youth music activity. While here, they can take the learning and experiences they acquire home before the programme culminates in a special annual conference (hosted by Community Music Wales) where case studies and learning for future collaborative projects can be shared.

With this invaluable support and financial assistance, Community Music Wales aims to foster greater access to music opportunities and empower diverse communities by nurturing musical talent, building confidence, promoting social cohesion, and furthering its mission to make music accessible to everyone.

..

Mae Cerdd Gymunedol Cymru yn falch tu hwnt o gyhoeddi ei fod wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan Taith – rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu – i ehangu ei gyrhaeddiad, datblygu cysylltiadau a gwella ei waith yn fyd-eang.

Gan ddechrau'r mis yma, bydd y sefydliad yn cyflwyno Dau Enaid, Un Daith, rhaglen gyfnewid ryngwladol newydd a chyffrous ar gyfer staff datblygu prosiectau a cherddorion/tiwtoriaid ar ddechrau eu gyrfa, a fydd yn rhannu syniadau ac arfer gorau, ac yn gweithio tuag at adeiladu rhwydwaith cydlynol ledled y byd o sefydliadau cerddoriaeth gymunedol.

Gan ddefnyddio cerddoriaeth ac ysgrifennu caneuon fel cyfrwng i greu perthynas newydd, bydd staff CGC yn cydweithio â sefydliadau yn yr Eidal, Awstralia, Portiwgal, Iwerddon a'r Ffindir eleni i astudio sut mae cerddoriaeth gymunedol yn cael ei defnyddio i gefnogi, monitro a gwerthuso lles pobl ifanc ac ymchwilio i’r ffordd y mae'r dulliau hyn yn effeithio ar iaith leiafrifol.

"Rydym yn ddiolchgar iawn i Taith am eu cefnogaeth hael," meddai Hannah Jenkins, Cyfarwyddwr CGC. "Bydd y cyllid hwn yn caniatáu inni ehangu ein dylanwad a darparu profiadau cerddorol cyfoethog i fwy o bobl eto, gan gynnwys y rhai o gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yma yng Nghymru. Gan ddefnyddio'r sgiliau, yr wybodaeth a'r cysylltiadau a wnawn wrth weithio ochr yn ochr â sefydliadau partner dramor, gallwn barhau i wella ein gwasanaethau a gwneud newid cadarnhaol i fywydau pobl."

Gan fod pob gwlad yn cyflwyno ei thraddodiadau unigryw ei hun o ran ymgysylltu â cherddoriaeth ieithoedd lleiafrifol, bydd y cyfnewid yn cwblhau’r cylch yn y pen draw a bydd cynrychiolwyr o sefydliadau partner yn cael eu gwahodd i Gymru’r flwyddyn nesaf i gymryd rhan mewn rhaglen Gymraeg o weithgareddau cerddoriaeth ieuenctid. Tra byddant yma, bydd pawb yn gallu mynd â'r hyn a ddysgwyd a'u profiadau adref gyda nhw cyn i'r rhaglen ddod i ben mewn cynhadledd flynyddol arbennig (a gynhelir gan Cerdd Gymunedol Cymru) lle bydd yn bosibl rhannu astudiaethau achos a dysgu ar gyfer prosiectau cydweithredol y dyfodol.

Gyda'r gefnogaeth amhrisiadwy a’r cymorth ariannol hwn, bwriad Cerdd Gymunedol Cymru yw datblygu mynediad ehangach at gyfleoedd cerddorol a grymuso cymunedau amrywiol trwy feithrin doniau cerddorol, cryfhau hyder, hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol, ac ehangu ei genhadaeth fel bo cerddoriaeth ar gael i bawb.

….

Using the skills, knowledge and connections we make working alongside partner organisations abroad, we can continue to improve our services and make a positive change in people’s lives.
— Hannah Jenkins, CMW Director
TaithGuest User