....Community Music Wales Launch the Ffordd Sain Map .. Cerdd Gymunedol Cymru yn lansio Map Ffordd Sain....

….From Llandudno to Cardiff Bay, the A470 twists and turns for almost two hundred miles stretching from North to South, providing a link to Wales’ past, present, and future.

So much of the country’s culture, history, and language leads back to this blacktopped backbone yet defining exactly what it means to be Welsh in Wales has never been more difficult.

As one of the nation’s leading music-focused organisations and through the support of funding provided by the Arts Council of Wales’ Create scheme, in March 2022 Community Music Wales set out on this iconic road to explore people’s connectivity to Wales, its varied landscape, to reveal notions of ‘Welshness’ through the power of music and sound.

Working closely with ten groups from areas spanning the length of the A470, the Ffordd Sain Project has compiled the sights and sounds of this astonishing sonic highway into this interactive map. Featuring audio, video, photography, and the spoken/written word, it aims to send visitors on a historic, topographic, and sociological journey into the heart of Wales using music as its vehicle. From the capital onto the historic valley towns of Pontypridd and Merthyr Tydfil, through the rural farming villages of Mid Wales to the dramatic summits of North Wales and back into the Victorian seaside town of Llandudno.

"Ffordd Sain, our participatory project engaged with 10 different communities living along the A470, to celebrate the diversity, bilingualism and different demographics of people who live along this famous route through Wales,” explains CMW Director, Hannah Jenkins. “Over the past year, we have engaged with over 300 individuals and 17 different groups, starting in Cardiff ending in Llandudno. Each group celebrated its own unique area and told the story of their own community through songwriting, performance, animation and video making. It has been a fantastic project and we are proud to publish an A470 Sound map, showing all of the work created. We'd like to thank the Arts Council of Wales' Create scheme, all of the partners, tutors and participants who made this project possible."

Community Music Wales on Website | Facebook | Twitter | Instagram
Ffordd Sain is funded by Arts Council Wales

Instructions:

To best experience the Ffordd Sain Map click on ‘Enter Full Screen’ in the bottom righthand corner. To navigate your way around, click on a location or use the arrows on either side of the screen to skip forward or backward. To return home at any point click on the blue map in the top corner!

..

O Landudno i Fae Caerdydd, mae’r A470 yn troelli ac yn troi am bron i ddau gan milltir gan ymestyn o’r Gogledd i’r De, gan ddarparu cyswllt â gorffennol, presennol a dyfodol Cymru.

Mae cymaint o ddiwylliant, hanes ac iaith y wlad yn arwain yn ôl at yr asgwrn cefn du hwn ond ni fu erioed yn anoddach diffinio beth yn union y mae’n ei olygu i fod yn Gymro neu’n Gymraes yng Nghymru.

Fel un o brif sefydliadau’r genedl sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth a thrwy gymorth cyllid a ddarparwyd gan gynllun Create Cyngor Celfyddydau Cymru, ym mis Mawrth 2022 aeth Cerdd Gymunedol Cymru ati i gychwyn ar y ffordd eiconig hwn i archwilio cysylltedd pobl â Chymru, ei thirwedd amrywiol, i ddatgelu syniadau am 'Gymreictod' trwy rym cerddoriaeth a sain.

Gan weithio’n agos gyda deg grŵp o ardaloedd ar hyd yr A470, mae Prosiect Ffordd Sain wedi crynhoi golygfeydd a synau’r briffordd sonig ryfeddol hon i’r map rhyngweithiol hwn. Gan gynnwys sain, fideo, ffotograffiaeth, a'r gair llafar/ysgrifenedig, ei nod yw anfon ymwelwyr ar daith hanesyddol, dopograffig a chymdeithasegol i galon Cymru gan ddefnyddio cerddoriaeth fel y cerbyd. O'r brifddinas i drefi hanesyddol y cymoedd, Pontypridd a Merthyr Tudful, trwy bentrefi amaethyddol gwledig y Canolbarth hyd at gopaon dramatig Gogledd Cymru ac yn ôl i dref glan môr Fictoraidd Llandudno.

“Bu Ffordd Sain, ein prosiect cyfranogol yn ymgysylltu â 10 cymuned wahanol sy’n byw ar hyd yr A470, i ddathlu amrywiaeth, dwyieithrwydd a demograffeg gwahanol y bobl sy’n byw ar hyd y llwybr enwog hwn drwy Gymru,” eglura Cyfarwyddwr CMW, Hannah Jenkins: “Dros y flwyddyn ddiwethaf , rydym wedi ymgysylltu â dros 300 o unigolion ac 17 o grwpiau gwahanol, gan ddechrau yng Nghaerdydd ac yn gorffen yn Llandudno. Dathlodd pob grŵp ei ardal unigryw ei hun ac adrodd stori eu cymuned eu hunain trwy gyfansoddi caneuon, perfformio, animeiddio a gwneud fideos. Mae wedi bod yn wych ac rydym yn falch o gyhoeddi map Sain A470, yn dangos yr holl waith a grëwyd. Hoffem ddiolch i gynllun ‘Creu’ Cyngor Celfyddydau Cymru, yr holl bartneriaid, tiwtoriaid a chyfranogwyr a wnaeth y prosiect hwn yn bosibl."

Cerdd Gymunedol Cymru ar Website | Facebook | Twitter | Instagram
Ariennir Ffordd Sain gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Cyfarwyddiadau:

CyfarwyddiadauI gael y profiad gorau o Fap Ffordd Sain cliciwch ar ‘Enter Full Screen’ yn y gornel dde ar y gwaelod. I lywio'ch ffordd o gwmpas, cliciwch ar leoliad neu defnyddiwch y saethau ar bob ochr i'r sgrin i neidio ymlaen neu yn ôl. I ddychwelyd adref unrhyw bryd cliciwch ar y map glas yn y gornel uchaf!….

....Each group celebrated its unique area and told the story of their own community through songwriting, performance, animation and video. .. Dathlodd pob grŵp ei ardal unigryw ei hun ac adrodd stori eu cymuned eu hunain trwy gyfansoddi caneuon, perfformio, animeiddio a gwneud fideos.....
— Hannah Jenkin, CMW Director