....Ffordd Sain Project .. Project Ffordd Sain....

….From Llandudno to Cardiff Bay, the A470 twists and turns for almost two hundred miles stretching from North to South Wales, providing a link to Wales’ past, present, and future.

So much of our country’s culture, history, and language leads back to this blacktopped backbone yet defining exactly what it means to be Welsh in Wales has never been more difficult.

Starting in March 2022 and funded through the Arts Council of Wales’ Create scheme, Ffordd Sain will harness the power of music and this iconic road to explore people’s connectivity to Wales, its everchanging landscape, and notions of ‘Welshness’.

“We’ve been developing this idea for some time and after consultation found that since devolution and its growing visibility during the coronavirus crisis, this question has become more relevant than ever,” explains CMW Director, Hannah Jenkins. “We aim to document, explore and celebrate identity, community and diversity. We want to discover what it truly means to be Welsh.

Drawing on its experience as one of the nation’s leading music-focused organisations, Community Music Wales will work closely with ten groups from areas spanning the length of the A470. From the capital onto the historic valley towns of Pontypridd and Merthyr Tydfil, through the rural farming villages of Mid Wales up to the dramatic summits of North Wales and back down into the Victorian seaside town of Llandudno. Using a variety of forms that will reflect the musicality of each area – from song writing to sound walks, traditional hillside choirs to experimental city soundscapes– Ffordd Sain promises to deliver an exciting calendar of activity, events, sessions and shows inspired by the A470.

From the mountains of the north to the post-industrial south, Ffordd Sain will document its findings through an interactive map that will compile the sights and sounds of this astonishing sonic highway. Featuring audio, video, photography, and the spoken/written word, it will send visitors on a historic, topographic, and sociological journey into the heart of Wales using music as its vehicle. In the process, providing a digital destination for Welsh identity for many years to come.

Community Music Wales on Website | Facebook | Twitter | Instagram
Ffordd Sain is funded by Arts Council Wales

..O Landudno i Fae Caerdydd, mae'r A470 yn troi a throelli am tua 200 milltir. Mae’n ymestyn o’r Gogledd i’r De ac yn cysylltu gorffennol, presennol a dyfodol Cymru.

Mae cymaint o ddiwylliant, hanes ac iaith ein gwlad yn arwain yn ôl at yr ‘asgwrn cefn’ du hwn ac eto nid yw’r diffiniad o Gymreictod yng Nghymru erioed wedi bod mor anodd.

Bydd Ffordd Sain, sy’n dechrau ym mis Mawrth 2022 ac sy’n cael ei ariannu drwy gynllun Creu Cyngor Celfyddydau Cymru, yn harneisio grym cerddoriaeth a'r ffordd eiconig hon er mwyn archwilio cysylltedd pobl â Chymru, ei thirwedd gyfnewidiol, a’r syniadau ynglŷn â 'Chymreictod'.

"Rydym wedi bod yn datblygu'r syniad hwn ers peth amser ar ôl i ymgynghoriad ganfod bod y cwestiwn wedi dod yn fwy perthnasol nag erioed ers datganoli a'i amlygrwydd cynyddol yn ystod argyfwng coronafeirws," meddai Hannah Jenkins, Cyfarwyddwr CGC. "Ein nod yw dogfennu, archwilio a dathlu hunaniaeth, cymuned ac amrywiaeth. Rydyn ni’n awyddus i ddarganfod beth yn union mae bod yn Gymry yn ei olygu."

Gan ddefnyddio ei brofiad fel un o sefydliadau mwyaf blaenllaw Cymru sy'n canolbwyntio ar gerddoriaeth, bydd Cerdd Gymunedol Cymru yn gweithio'n agos â deg grŵp o ardaloedd ar hyd yr A470. O'r brifddinas i drefi cymoedd hanesyddol Pontypridd a Merthyr Tudful, drwy bentrefi amaethyddol gwledig y Canolbarth hyd at gopaon dramatig y Gogledd ac yna’n ôl i lawr i dref glan môr Fictoraidd Llandudno. Gan ddefnyddio amrywiaeth o ffurfiau a fydd yn adlewyrchu natur gerddorol pob ardal - o ysgrifennu caneuon i deithiau cerdded sain, corau traddodiadol y bryniau i seinweddau dinesig arbrofol - mae Ffordd Sain yn addo cyflwyno calendr cyffrous o weithgareddau, digwyddiadau, sesiynau a sioeau wedi'u hysbrydoli gan yr A470.

O fynyddoedd y Gogledd i dirwedd ôl-ddiwydiannol y De, bydd Ffordd Sain yn dogfennu ei ganfyddiadau drwy fap rhyngweithiol a fydd yn crynhoi golygfeydd a synau'r briffordd sonig syfrdanol hon. Drwy gynnwys recordiadau sain, fideos, ffotograffau a'r gair llafar/ysgrifenedig, bydd yn arwain ymwelwyr ar daith hanesyddol, dopograffig a chymdeithasegol i galon Cymru gan ddefnyddio cerddoriaeth fel cyfrwng. Wrth wneud hyn, bydd yn darparu cyrchfan ddigidol ar gyfer hunaniaeth Gymreig am flynyddoedd lawer i ddod.

Cerdd Gymunedol Cymru ar Website | Facebook | Twitter | Instagram
Mae Ffordd Sain yn cael ei ariannu gan Cyngor Celfyddydau Cymru

….