....Singing for Mindfulness .. Canu er Lles....

....I have got so much more confidence singing after joining this group, I’m not afraid of singing at home. ..Mae gen i gymaint mwy o hyder yn canu ar ôl ymuno â’r grŵp yma, does gen i ddim ofn canu gartref. ....

….Since the start of 2023 we have been running a fantastic series of sessions in North Wales called Singing for Mindfulness – designed and delivered by tutor Julie Bulman, in partnership with KIM Inspire – that offers participants the chance to explore the connection between singing and personal wellbeing.

“As a registered nurse and singer, I often wondered how I could amalgamate both careers,” explain Julie. “Working with children in schools I found that the breathing exercises used in singing were very similar to the exercises used in mindfulness for grounding and lessening anxiety, so I was very keen to adopt those methods for adults within the community.

Combining singing, music and wellbeing in a safe space, Singing for Mindfulness offers participants a fun session built around their needs. Inclusive for all, each session is individualised to its group and expanded each week until the end of the program where the participants develop and acquire vital techniques and tools to help keep anxiety or panic attacks under control.

Every new week a new element is introduced, with new techniques and methods of singing helping participants explore vital themes around mindfulness, such as Focus, Connection, Change, and the Human Body and Mind. 

“People who come to our sessions find themselves sleeping better and develop self-confidence,” she smiles. “They also improve their singing technique to a point where they can partake in any vocal endeavour, whether singing on karaoke machine, as part of a local choir or even in the shower! It’s a wonderful thing.”

For more info about Singing for Mindfulness please contact Martin Hoyland here and to explore some of the wonderful things our participants have said about the sessions, see below:

  • “I have loved every minute of this group, I am looking forward to singing new songs in the Kimeoke group, now I know how to breath correctly to hit my high notes.”

  • “I have got so much more confidence singing after joining this group, I'm not afraid of singing at home. Thank you to Julie who has helped me sing more.”

  • “Enjoyed singing in a group and trying new songs, makes me go home happy to sing when I'm feeling a bit down in the dumps.”

  • “I wasn’t sure if I wanted to do this group as I can be very anxious with people but I have truly enjoyed every week, I didn’t know my voice could reach high notes but with Julie the facilitators help I did it, felt a bit dizzy doing the breathing exercises but Julie got me a chair to rest on when I needed it, thank you for helping me build my self-esteem, loved every minute of it.”

  • “Excellent group, very relaxing, lovely people in the group. I loved singing with everyone. I made new friends too. “

  • “Would love to join the next singing group again or a choir, I've learnt so much about singing, I would like to sing more now to help my confidence.”

..

Ers dechrau 2023 rydym wedi bod yn cynnal cyfres ragorol o sesiynau yng Ngogledd Cymru o'r enw Canu er Lles – cawsant eu cynllunio a’u cyflwyno gan y tiwtor Julie Bulman, mewn partneriaeth â KIM Inspire – i roi’r cyfle i gyfranogwyr archwilio'r cysylltiad rhwng canu a lles personol.

"Fel nyrs gofrestredig a chantores, roeddwn i'n aml yn meddwl tybed sut y gallwn gyfuno'r ddwy yrfa," eglura Julie. "Wrth weithio gyda phlant mewn ysgolion, roeddwn i'n gweld bod yr ymarferion anadlu a ddefnyddir wrth ganu yn debyg iawn i'r ymarferion a ddefnyddid mewn ‘meddwlgarwch’ ar gyfer lliniaru a lleihau pryder, felly roeddwn yn awyddus iawn i fabwysiadu'r dulliau hynny ar gyfer oedolion yn y gymuned.

Gan gyfuno canu, cerddoriaeth a lles mewn gofod diogel, mae Canu er Lles yn sesiwn hwyliog i’r rhai sy’n cymryd rhan ac mae wedi’i llunio ar gyfer eu hanghenion. Mae pob sesiwn sy’n gynhwysol i bawb wedi ei theilwrio’n arbennig ar gyfer y grŵp dan sylw ac yn cael ei ehangu bob wythnos tan ddiwedd y rhaglen. Bydd y cyfranogwyr yn datblygu ac yn dysgu technegau a dulliau hanfodol i helpu i gadw gorbryder neu byliau o banig dan reolaeth.

Bob wythnos newydd, bydd elfen newydd yn cael ei chyflwyno, gyda thechnegau a dulliau newydd o ganu a fydd yn helpu’r cyfranogwyr i archwilio themâu hanfodol sy’n ymwneud â meddwlgarwch, megis Ffocws, Cysylltiad, Newid a'r Corff Dynol a'r Meddwl.

"Mae pobl sy'n dod i'n sesiynau yn sylwi eu bod yn cysgu'n well ac yn datblygu eu hunanhyder hefyd," meddai. "Maen nhw hefyd yn gwella eu techneg ganu i’r fath raddau eu bod yn gallu cymryd rhan mewn unrhyw sialens leisiol, boed hynny’n ganu ar beiriant karaoke, fel rhan o gôr lleol neu hyd yn oed yn y gawod! Mae'n rhywbeth rhyfeddol."

I gael rhagor o wybodaeth am Ganu er Lles cysylltwch â Martin Hoyland yma ac i archwilio rhai o'r pethau ardderchog y mae ein cyfranogwyr wedi'u dweud am y sesiynau, gweler isod:

  • "Rydw i wedi mwynhau pob eiliad yn y grŵp yma. Rwy'n edrych ymlaen at ganu caneuon newydd yn y grŵp Kimeoke, a nawr rwy'n gwybod sut i anadlu'n gywir i gyrraedd fy nodau uchel.”

  • "Mae gen i gymaint mwy o hyder yn canu ar ôl ymuno â'r grŵp yma, does gen i ddim ofn canu gartref. Diolch yn fawr i Julie, sydd wedi fy helpu i ganu mwy."

  • "Wedi mwynhau canu mewn grŵp a rhoi cynnig ar ganeuon newydd. Rydw i’n mynd adref yn hapus ac yn canu pan dwi'n teimlo ychydig yn ddigalon."

  • "Doeddwn i ddim yn siŵr a oeddwn i eisiau ymuno â’r grŵp yma gan fy mod i'n gallu bod yn bryderus iawn pan fyddaf yng nghwmni pobl, ond rydw i wir wedi mwynhau bob wythnos. Doeddwn i ddim yn gwybod fod fy llais yn gallu cyrraedd nodau uchel ond gyda chymorth Julie, yr hwylusydd, fe wnes i lwyddo. Roeddwn i’n teimlo ychydig yn benysgafn wrth wneud yr ymarferion anadlu ond daeth Julie â chadair i mi orffwys arni pan oedd ei hangen. Diolch i chi am fy helpu i fagu fy hunan-barch. Wedi caru pob eiliad.”

  • “Grŵp rhagorol, ymlaciol iawn a phobl hyfryd yn y grŵp. Roeddwn wrth fy modd yn canu gyda phawb. Fe wnes i ffrindiau newydd hefyd.”

  • "Byddwn i wrth fy modd yn ymuno â'r grŵp canu nesaf eto neu gôr. Rydw i wedi dysgu cymaint am ganu a hoffwn ganu mwy nawr i helpu fy hyder."….

NewsGuest User