….Participatory Arts Programme
One of the cornerstones of our work has always been our participatory programme. CMW was the first organisation in Wales to formally recognise achievement of participants in community music by writing accompanying accreditation units with Agored Cymru (previously the Open College Network Wales). Many of these units were in new musical genres which although popular were not recognised in mainstream music education. We wrote many new units including Beat Boxing, Social Networking, Rock & Pop Singing, Rap & MC’ing, Recording Skills, Live Performance Skills, Mentoring Skills, Health and Safety at Rehearsals and Live Performances and MP3 Mixing. These units were the first way of recognising the skill and achievement in this kind of urban music. Through delivering informal learning in this fashion, we were able to increase opportunities and provide an alternative progression to education and employment.
..
Rhaglen Celfyddydau Cyfranogol
Mae ein rhaglen gyfranogol wedi bod yn un o gonglfeini ein gwaith erioed. CGC oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i gydnabod cyflawniad cyfranogwyr ym maes cerddoriaeth gymunedol yn ffurfiol, a hynny drwy ysgrifennu unedau achredu cysylltiedig ag Agored Cymru (Rhwydwaith Coleg Agored Cymru cyn hynny). Roedd llawer o'r unedau hyn yn gysylltiedig â genres cerddorol newydd nad oeddent yn cael eu cydnabod mewn addysg gerddorol brif ffrwd er eu bod yn boblogaidd. Buom yn ysgrifennu llawer o unedau newydd gan gynnwys Beat Boxing, Rhwydweithio Cymdeithasol, Canu Roc a Phop, Rap ac MCing, Sgiliau Recordio, Sgiliau Perfformio Byw, Sgiliau, Iechyd a Diogelwch mewn Ymarferion a Pherfformio Byw a Chymysgu MP3. Yr unedau hyn oedd y ffordd gyntaf o gydnabod y sgil a'r cyflawniad yn y math hwn o gerddoriaeth drefol. Drwy ddarparu addysg anffurfiol yn y ffordd hon, roeddem yn gallu cynyddu cyfleoedd a darparu llwybr datblygu amgen o ran addysg a chyflogaeth.
….
(Links to videos or and pictures)