....Ffordd Sain in Blaenau Ffestiniog with Community Music Wales .. Ffordd Sain ym Mlaenau Ffestiniog gyda Cerdd Gymunedol Cymru....

….In partnership with Cell B in Blaenau Ffestiniog, we spoke to the participants there who decided that as the slate mines and quarries were such a big part of the community, both in the past and now in their form as tourist attractions, it'd be interesting to make a film about them.

Cell B had an upcoming Taith Llechi Slate Tour of interesting points of the mines and quarries, so our Film Tutor Sion Glyn went along to film and talk with some of the young people about their opinions of the slate industry, and how it shapes their experience of being brought up in the surrounding area. While these discussions were taking place, an old silent movie of local business adverts was found by Archif Sgrin and the newly formed group Yr Ogs, decided they’d like to compose music to go along with the film, with the help of our tutor Neil Williams.

..

Mewn partneriaeth â Cell B ym Mlaenau Ffestiniog, buom yn siarad â'r cyfranogwyr yno a ddaeth i’r penderfyniad, gan fod y chwareli llechi yn rhan mor fawr o'r gymuned yn y gorffennol, a heddiw fel atyniadau twristaidd, y byddai'n ddiddorol gwneud ffilm amdanynt.

Roedd gan Cell B Daith Lechi yn fuan o amgylch mannau diddorol y chwareli, felly aeth Sion Glyn, ein Tiwtor Ffilm, draw i ffilmio a siarad gyda rhai o'r bobl ifanc i glywed eu barn am y diwydiant llechi, a sut mae'n siapio eu profiad hwy o gael eu magu yn yr ardal. Yn ystod y trafodaethau hyn, canfuwyd hen ffilm fud o hysbysebion busnesau lleol gan Archif Sgrin a phenderfynodd y grŵp newydd, Yr Ogs, y byddent yn hoffi cyfansoddi cerddoriaeth i gyd-fynd â'r ffilm, gyda chymorth ein tiwtor, Neil Williams. ….