am cgi
Mae Cerdd Gymunedol Cymru wedi ymrwymo i wneud cyfranogiad cerddoriaeth yn hygyrch i bawb yng Nghymru, waeth beth fo'u rhyw, oedran, gallu, cefndir cymdeithasol neu ddiwylliant. Gyda dros 30 mlynedd o brofiad, rydym yn cynnal gweithdai cerddoriaeth gynhwysol, hyfforddiant a mentora dan arweiniad tiwtoriaid hyfforddedig, gan sicrhau bod ein harbenigedd mewn cyflwyno cerddoriaeth a’n hymrwymiad i gynhwysiant yn rhan annatod o bob sesiwn. Rydym yn darparu prosiectau cerddoriaeth o ansawdd uchel sy'n cael effaith sy'n grymuso cymunedau, yn cefnogi cerddorion, ac yn meithrin twf creadigol. O’n swyddfeydd ym Merthyr Tudful a Gwynedd, rydym yn partneru â sefydliadau amrywiol i gefnogi pobl sy’n wynebu heriau economaidd, cymdeithasol ac iechyd. Mae ein tîm ymroddedig yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau cerddoriaeth, lles, a chydlyniant cymunedol, tra'n cael effaith gadarnhaol ar economïau lleol trwy gyflogaeth, addysg a chyfleoedd gwirfoddoli.