Calonnau Cerddorol: Cerddoriaeth ac Iechyd Meddwl

Taith Greadigol

Prosiect Cerddoriaeth Gymunedol Cymru oedd Calonnau Cerddorol a oedd yn dathlu rôl cerddoriaeth wrth gefnogi iechyd meddwl a lles.

Wedi'i ddatblygu ar ôl cynllun peilot llwyddiannus yn ystod y pandemig, fe'i cyflwynwyd mewn partneriaeth â Thŷ Canna, Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd, a Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol Hafod, gyda chefnogaeth gan Raglen Iechyd Meddwl a Lles Cyngor Celfyddydau Cymru.

Creadigrwydd yn y Ganolfan

O'r dechrau, cafodd y prosiect ei lunio gan y cyfranogwyr eu hunain.

Gan weithio ochr yn ochr ag ymarferydd cerddoriaeth hyfforddedig, cymerodd pobl ran mewn:

Gweithdai grŵp a sesiynau un-i-un

Cyfansoddi caneuon a recordio eu cerddoriaeth wreiddiol eu hunain

Perfformiadau ar gyfer eu cymunedau lleol, gan gynnwys trigolion hŷn

Y nod oedd helpu pobl i feithrin hyder, gosod nodau cyraeddadwy a chysylltu ag eraill trwy greadigrwydd.

Lleisiau Profiad

Siaradodd y cyfranogwyr yn gynnes am y gwahaniaeth a wnaeth y prosiect:

“Rwy'n dwlu ar deimlo'n rhan o grŵp, ac mae'r canu yn gwneud i mi deimlo y gallaf wneud rhywbeth sy'n helpu fy hyder. Mae canu mewn grŵp yn therapiwtig iawn. Rwyf bob amser yn teimlo'n well wedyn.” – Cyfranogwr y prosiect

Roedd presenoldeb cryf drwyddo draw, gan ddangos sut y gall cerddoriaeth ddarparu cysondeb, pwrpas a mwynhad hyd yn oed i'r rhai sy'n wynebu amgylchiadau anodd neu anrhagweladwy.

Effaith Barhaol

Wrth fyfyrio ar y prosiect, dywedodd Cyfarwyddwr CMW, Hannah Jenkins:

“Mae wedi bod yn anhygoel gweld cyfranogwyr yn tyfu'n greadigol, yn meithrin gwydnwch ac yn darganfod potensial newydd trwy gerddoriaeth. Mae llwyddiant Calonnau Cerddorol yn dangos pa mor bwysig y gall prosiectau fel hyn fod ar gyfer lles pobl.”

Tynnodd Calonnau Cerddorol sylw at bŵer unigryw cerddoriaeth i gefnogi adferiad a lles — gan helpu unigolion i fynegi eu hunain, cryfhau cysylltiadau cymunedol a dod o hyd i lawenydd mewn creadigrwydd.