Croeso i Gerdd Gymunedol Cymru!
Elusen gelfyddydol genedlaethol ydym ni a gafodd ei sefydlu yn 1992, ac rydym yn gweithio ar draws tirwedd greadigol Cymru. Rydym yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau cyfranogol, hyfforddiant a mentora, ac yn defnyddio cerddoriaeth fel dull sylfaenol o ymgysylltu. Rydym yn credu fod cymryd rhan yn y celfyddydau yn hanfodol er mwyn creu cymdeithas gydlynol. Mae’r elfen o gymuned yn ganolog i’n gwaith ac mae hyn yn annog y syniad o ehangu mynediad i’r celfyddydau ac i ddiwylliant.



