Gair Am Ein Prosiectau

Mae ein gwaith o ddarparu gweithgareddau ar lawr gwlad yn canolbwyntio ar weithdai cerddoriaeth gyfranogol sy’n rhoi cyfleoedd i greu cerddoriaeth greadigol. Rydym yn gweithio gyda phob oedran a phob gallu, ac yn defnyddio cerddoriaeth mewn ffyrdd arloesol i roi cyfleoedd i’r rhai a chanddynt ychydig iawn neu ddim mynediad o gwbl i’r celfyddydau.

Mae ein gwaith cyfranogol yn cynorthwyo cymunedau drwy wneud y canlynol:

  • Defnyddio cerddoriaeth i gynyddu hyder, cymhelliad a hunan-barch

  • Cefnogi cydlyniant cymunedol

  • Gwella sgiliau sylfaenol 

  • Gwella lles ac iechyd meddwl

Rydym yn gweithio gyda phob grŵp oedran ac yn addasu prosiectau i gwrdd ag anghenion yr holl gymunedau amrywiol ledled Cymru. Rydym yn cynnig gweithgareddau drwy bob genre cerddorol, ac yn cynnal prosiectau cymunedol cyfranogol bychain a rhai ar raddfa fawr.