Effaith
Mae cerddoriaeth yn cyfoethogi bywydau; mae’n gallu rhyddhau, cyffroi, lleddfu a rhoi pleser. Mae’r weithred o greu cerddoriaeth ynddi hi ei hun yn grymuso.
Pam cerddoriaeth?
Rydym yn credu fod cerddoraieth yn gallu effeithio ar fywydau pawb, hyd yn oed yr unigolion hynny sydd fwyaf anodd eu cyrraedd. Gall ddylanwadu mewn ffordd hynod bositif pan yw’n cael ei chyflwyno mewn ffordd sensitif sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a hynny gan diwtoriaid ac ymarferwyr cerddoriaeth gymunedol hyfforddedig.
Mae cerddoriaeth yn addas ar gyfer pob grŵp – pob oedran a gallu. Gellir teilwra gweithgaredd i ddal dychymyg a diddordeb pawb. Nid yw cerddoriaeth yn unig ar gyfer pobl sy'n gerddorion, neu rai sydd eisiau dod yn gerddorion; mae'n rhoi cyfleoedd newydd i bobl ddysgu a chymdeithasu. Gall defnyddio gweithgareddau cerddoriaeth gymunedol gyda grwpiau groesi rhaniadau diwylliannol a phontio’r bylchau rhwng oedrannau gan feithrin cydlyniant, ac wrth wneud hynny dod â chymunedau at ei gilydd. Nid yw nod cerddoriaeth gymunedol o reidrwydd yn ymwneud â chynnyrch terfynol darn cerddorol, ond yn hytrach y daith i gyrraedd yno. Ac ar y ffordd gall cyfranogwyr gynyddu eu hyder, lefelau sgiliau sylfaenol, cydlyniant cymunedol a chryfhau eu cysylltiadau cymunedol, yn ogystal â datblygu sgiliau ymarferol.
Mae’n hawdd cyfuno cerddoriaeth o fewn prosiectau creadigol mwy sy’n defnyddio ffurfiau celfyddydol eraill. Gellir cysylltu gweithgaredd cerddorol â’r celfyddydau gweledol megis creu ffilm, animeiddio, dawns a theatr.
Mae cyfranogiad cerddoriaeth gymunedol yn gallu:
Cynyddu hyder, hunan-barch a datblygu dyheadau positif
Darparu mwy o gyfle ar gyfer creadigrwydd a chwarae dychmygus
Cefnogi datblygiad sgiliau sylfaenol
Cynorthwyo cydlyniant cymunedol creadigol
Caniatáu i gyfranogwyr ddysgu sgiliau newydd
Cynyddu cyfleoedd ar gyfer datblygu gwaith tîm a syniadau cydweithredol
Cynyddu ymwybyddiaeth o’r posibiliadau gwaith o fewn y diwydiannau creadigol
Gwyddom fod cerddoriaeth yn cael ei chydnabod fel ffordd ardderchog o ymgysylltu â chymunedau difreintiedig a rhai â phroblemau iechyd meddwl. Yn astudiaeth Hand in Hand, Arts Based Activities and Regeneration 2008 (Prifysgol Morgannwg), nodir yn glir "arts based practice can connect diverse groups in the community, promote inter-generational activity and foster social cohesion." Yn ogystal â chefnogi'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl drwy wella cysylltiadau cymunedol, mae'r astudiaeth hefyd yn nodi bod sgiliau a ddysgwyd yn ystod gweithgaredd celfyddydol yn llawer mwy na'r sgiliau sy'n gysylltiedig â'r gelfyddyd ei hun ac "significantly contribute to the employability and job-readiness of individuals, their well-being and mental health... [and in doing so] contribute directly to the economic objectives of regeneration."
Darganfu astudiaeth arall a adroddwyd yn Nature Neuroscience fod y cemegyn yn cael ei ryddhau ar adegau pan oedd mwynhad ar ei fwyaf. Bu ymchwilwyr o Brifysgol McGill ym Montreal yn cynnal profion ar lefelau dopamin a chanfod eu bod hyd at 9% yn uwch pan oedd gwirfoddolwyr yn gwrando ar gerddoriaeth yr oeddent yn ei mwynhau. Mae awduron yr adroddiad yn dweud fod hyn yn arwyddocaol wrth brofi fod pobl yn cael pleser o gerddoriaeth.
Mae ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid a gyhoeddwyd ar wefan Verywell Mind yn honni fod gan gerddoriaeth sawl mantais o ran lles emosiynol. Roedd rhan o’r astudiaeth hon yn 2015 yn adolygu effeithiau cerddoriaeth ar reoli poen a darganfu bod cleifion oedd yn gwrando ar gerddoriaeth cyn, yn ystod neu hyd yn oed ar ôl llawdriniaeth yn teimlo llai o boen a gorbryder na’r rhai nad oeddynt yn gwrando ar gerddoriaeth. Gellir darganfod dolenni rhagor o honiadau isod.