Do you have a story to tell about the Glamorganshire Canal?

〰️

Oes gennych chi stori i'w hadrodd am Gamlas Morgannwg?

Do you have a story to tell about the Glamorganshire Canal? 〰️ Oes gennych chi stori i'w hadrodd am Gamlas Morgannwg?

Straeon, cymunedau a chreadigrwydd ar hyd hen Gamlas Morgannwg

Mae Camlas yn brosiect cymunedol creadigol dan arweiniad Cerdd Gymunedol Cymru, gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy’n archwilio hanes, treftadaeth a straeon Camlas Morgannwg, o Ferthyr Tudful i Dre-biwt yng Nghaerdydd.

Rydym yn casglu straeon, atgofion, hen luniau a syniadau i ysbrydoli rhaglen o gerddoriaeth, celfyddydau carnifal a gweithdai creadigol yn 2027.

Oes gennych chi stori i’w rhannu neu syniad i’w archwilio?

Rhan allweddol o’r prosiect yw darganfod nid yn unig hanes mwy adnabyddus y gamlas, ond hefyd y straeon llai adnabyddus, y cymeriadau, yr atgofion a’r cysylltiadau personol sydd wedi llunio ei hanes a’r cymunedau ar hyd ei llwybr.

Efallai bod gennych chi atgofion, straeon teuluol, hen ffotograffau neu wybodaeth leol am y gamlas. Efallai eich bod yn rhan o grŵp cymunedol ar hyd y llwybr ac yr hoffech gymryd rhan yn y gwaith o lunio’r prosiect neu gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol yn y dyfodol. Neu, os ydych chi’n adnabod rhywun y dylem siarad â nhw, helpwch ni i ledaenu’r gair!

Rydym am sefydlu gweithgor o bobl sydd â diddordeb mewn hanes lleol ac aelodau o’r gymuned i’n helpu gyda’r gwaith ymchwil a darganfod hwn dros y misoedd nesaf.

Beth bynnag yw eich cysylltiad, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

Cysylltwch â ni

E-bost: admin@communitymusicwales.org.uk

Ein Llwybr, Ein Llais / Our Path, Our Voice

〰️

Ein Llwybr, Ein Llais / Our Path, Our Voice 〰️