Cymysgu Canoloesol
Roedd Cymysgu Canoloesol (Medieval Mashup) yn brosiect oedd yn dathlu 400 mlwyddiant Llawysgrif Robert ap Huw, drwy gyfres o weithdai a oedd yn ail edrych ar y gwaith gan ddefnyddio cerddoriaeth werin draddodiadol Gymreig a cherddoriaeth gyfoes.
Roedd Robert ap Huw yn delynor a chopïwr o Gymro, a aned tua 1580. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei lawysgrif, a elwir bellach yn 'Llawysgrif Robert ap Huw', sef y brif ffynhonnell gerdd dant sy’n bodoli ac mae'n gasgliad canoloesol hwyr o gerddoriaeth ar gyfer y delyn. Ystyrir mai llawysgrif Robert Ap Huw yw un o ffynonellau pwysicaf cerddoriaeth Gymreig gynnar. Defnyddiodd Robert gerddoriaeth ddwyran yn ei lawysgrif. Mae'r cysyniad hwn o nodiant yn dyddio'n ôl i hen wlad Groeg ac fe'i defnyddid yn helaeth ledled Ewrop yn ystod y cyfnod canoloesol fel ffurf ar gyfer cofnodi a chadw cerddoriaeth y cyfnod. Yn 2013 dathlwyd 400 mlwyddiant llawysgrif Robert Ap Huw o gerddoriaeth ddwyran draddodiadol Gymreig. Mae Robert Evans a Mary Anne Roberts o Bragod (band gwerin traddodiadol Cymreig) wedi bod yn astudio, recordio a pherfformio'r llawysgrif i gynulleidfaoedd ledled Ewrop. Ar y prosiect hwn bu’r ddau yn gweithio gyda CGC ar gyfres o weithdai gyda phobl ifanc yng Nghaerdydd, Llanelli, Caernarfon ac Ynys Môn.
Gweithiodd y cyfranogwyr gyda'r llawysgrif, gan archwilio cysyniadau cerddoriaeth ddwyran a dysgu am eu treftadaeth gerddorol. Bu ein tiwtoriaid CGC hyfforddedig a phrofiadol hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Bragod a chynhyrchwyr cerddoriaeth gyfoes i recordio a pherfformio eu dehongliadau o'r llawysgrif. Roedd yn rhaid i’r cyfranogwyr fynd i'r afael ag offerynnau gwerin traddodiadol fel y crwth a'r delyn fach ac ymateb iddynt drwy ymgorffori arddulliau cerddorol modern.
Drwy'r cyfuniad hwn o dechnolegau recordio a pherfformio cerddoriaeth fodern a dulliau traddodiadol hynafol, llwyddodd y prosiect i ddod â llawysgrif Robert Ap Huw i'r oes fodern.
Cafodd y prosiect hwn ei ariannu gan Gwreiddiau Ifanc Cronfa Dreftadaeth y Loteri.